Y Llyfr Data yn y Gymraeg

The Data Book from Education Interactive

Mae'r tri Llyfr Data yn gasgliad o weithgareddau data ar gyfer cyfnodau allweddol 2 a 3. Cafwyd eu comisiynu gan y Cynulliad (gynt ACCAC) a'u hysgrifennu yn gydamserol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Er mai blas Cymreig sydd i'r gwaith a'r esiamplau, maent yr un mor gymwys i'w defnyddio yn Lloegr.

Cyhoeddwyd llyfr A2 o bosteri i ysgogi trafodaeth am ddata a thebygolrwydd gyda thudalennau o gwestiynau, geirfa allweddol ac amcanion y gwersi ar gyfer yr athro/athrawes. Gall y llyfr sefyll ar ddesg yr athro/awes fel bod yr athro/awes yn gallu gweld y nodiadau a'r plant yn gallu gweld y poster. Gyda'r llyfr A2 mae llyfr A4 o daflenni gwaith i gyd-fynd â phob poster, copïau gwreiddiol tryloywon ar gyfer uwch daflunydd, copïau llai o nodiadau'r athro/awes a chyfarwyddiadau cynhwysfawr i'r athro/awes ar sut i ddefnyddio'r deunyddiau. Hefyd mae CD-ROM o'r posteri ar gael ar gyfer eu cyflwyno gyda'r bwrdd gwyn rhyngweithiol, yn ogystal â dolennau we defnyddiol a data a gasglwyd gan Census at School sydd wedi'u cyflwyno mewn taenlenni sy'n hawdd i'w defnyddio. (Mae'r CD yn cynnwys copi PDF o'r deunyddiau addysgu i gyd).

Mae tri llyfr yn y gyfres gyda 20 gweithgaredd trin data ym mhob un ohonynt sy'n cyfateb i ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr.

Cyhoeddi

Manylion y Cynnwys

Mae pob set o ddeunyddiau yn cynnwys dau lyfr (un A4 a'r llall yn A2) a CD-ROM.

Llyfr 1 (Blynyddoedd 3 i 5)

The Data Book from Education Interactive

Cyhoeddwyd y Llyfr Data 1 ar gyfer Cyfnod Allweddol 2. Mae ugain gwers yn ogystal â gweithgareddau annibynnol estynedig. Mae'r gweithgareddau yn cynnwys didoli siapiau, cyfri arian, defnyddio diagramau Venn a Carroll, mesur hyd ac amser, casglu data real a chyflwyno data mewn amrywiaeth o ffyrdd diddorol a heriol. Mae'r taflenni gwaith yn cynnwys gemau i'w chwarae, cardiau i'w torri allan a chyfleoedd i ddisgyblion weithio yn annibynnol ac mewn grwpiau.

Pecyn Llyfr Data Un (Llyfr A2, Llyfr A4 a CD) • Cyfeirnod Cynnyrch: 145-01

Pris yr un: £50.00

Deunyddiau Llyfr Data 1 yn unig (Llyfr A4 a CD ar gyfer y BGRh) • Cyfeirnod Cynnyrch: 145-02

Pris yr un: £40.00

Y Llyfr Data 2 (Blynyddoedd 5 i 7)

The Data Book from Education Interactive

Mae Llyfr 2 yn datblygu'r syniadau a gyflwynwyd yn Llyfr 1 gan anelu ei gynnwys at Gyfnod Allweddol 2 a 3. Gellir ei ddefnyddio naill ai o fewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd neu fel deunydd pontio.

Cyflwynir y tri chyfartaledd o fewn cyd-destunau real ac anogir disgyblion i wneud rhagdybiaethau a'u profi gyda'u data eu hunain. Datblygir themau traws gwricwlaidd gyda Daearyddiaeth, Chwaraeon, Gwyddoniaeth ac Addysg Iechyd ac mae cyfle i ymestyn y Cwricwlwm Cymreig.

Pecyn Llyfr Data 2 (Llyfr A2, llyfr A4 a CD) • Cyfeirnod Cynnyrch: 145-03

Pris yr un: £50.00

Deunyddiau Llyfr Data 2 yn unig (Llyfr A4 a CD ar gyfer y BGRh) • Cyfeirnod Cynnyrch: 145-04

Pris yr un: £40.00

Y Llyfr Data 3 (Blynyddoedd 7 i 9)

The Data Book from Education Interactive

Y Llyfr Data 3 yw'r olaf yn y gyfres a datblygir y syniad o gyfartaleddau, cyflwyno data a thebygolrwydd yn ogystal â chyflwyno'r cysyniad o gydberthyniad. Eto mae pwyslais ar ddefnyddio data go iawn sy'n berthnasol i brofiadau'r disgyblion ac mae'r ddisg yn cynnwys mwy o ddata o'r prosiect Census at School gyda bâs data cynhwysfawr o ganlyniadau diwrnod mabolgampau ysgol. Erbyn diwedd y llyfr, disgwylir i blant brofi rhagdybiaethau ac mae'n baratoad delfrydol ar gyfer Cyfnod Allweddol 4.

Pecyn Llyfr Data 3 (Llyfr A2, llyfr A4 a CD) • Cyfeirnod Cynnyrch: 145-05

Pris yr un: £50.00

Deunyddiau Llyfr Data 3 yn unig (Llyfr A4 a CD ar gyfer y BGRh) • Cyfeirnod Cynnyrch: 145-06

Pris yr un: £40.00

Education Interactive Education Interactive Education Interactive

Yn Rhad ac am Ddim:

Llawr lwythwch wers gyfan (PDF) o
Llyfr Data 1.
‘Trefnwch yr Estroniaid’

Taflen Waith a Thryloyw Taflunydd